Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant

 

Dyddiad     Dydd Mercher, 24 Medi 2014

Lleoliad:    Ystafelloedd Cynadledda C a D, Tŷ Hywel

Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd), Sian Mile (Uwch Swyddog Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Jocelyn Davies AC,    Aled Roberts AC, Lindsay Whittle AC, Christine Chapman AC, yr Anrh. Dr Jocelynne Scutt, Bargyfreithiwr a Chyfreithiwr Hawliau Dynol Gymrawd yn Ymweld, Coleg Lucy Cavendish, Prifysgol Caergrawnt, Delyth Byrne (Tros Gynnal), Robin Moulster (BASW Cymru), Eleri Griffiths (Sdim Curo Plant), Sara Reid (Sdim Curo Plant), Andy James (Cadeirydd ’Sdim Curo Plant Cymru), Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru), Peter Newell (Rhoi Terfyn ar Gosbi Plant yn Gorfforol), Viv Laing (NSPCC), Pat Dunmore (Pat Dunmore Consultancy), Alaw Griffiths (6ed Dosbarth Ysgol Glantaf), Maegan Davies-John (6ed Dosbarth Ysgol Glantaf), Claire Sharp (Plant yng Nghymru), Cliff DePass, Paul Apreda, (Mae’r Ddau Riant yn Cyfri Cymru), Sara Jones (Cymorth i Fenywod Caerdydd, Plant Diogel), Rhian Croake (Achub y Plant), Diane Daniels (Cadeirydd Tros Gynnal Plant, Is-Gadeirydd Plant yng Nghymru), Jane Harries (y Sefydliad Heddwch / Crynwyr), yr Athro Emeritws Jo Sibert OBE, Jonathan Evans (Cynghorydd Caerdydd / Academyddion o blaid Gwarchodaeth Gyfartal), David Miller (NSPCC), Colin Palfrey (Staff Cymorth Lindsay Whittle AC)                

Ymddiheuriadau: Simon Thomas AC, Janet Weaver ac Elaine Clayton (Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd), Sonia Mason, Pennaeth Dros Dro Diogelu Plant Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan),Dr Katherine Shelton (Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd), Pauline Galluccio (Pennaeth Diogelu Powys), Zoe Richards (Rheolwr Pobl Ifanc a Gofalwyr, Anabledd Dysgu Cymru), Paul Fanning (The Fostercare Cooperative), Anne Crowley (Ymchwilydd Cyswllt Prifysgol Caerdydd), Dr Judy Hutchings OBE (Athro Seicoleg Glinigol, Cyfarwyddwr y Ganolfan Dystiolaeth sy’n seiliedig ar Ymyrraeth Gynnar), Dr Gwenllian Lansdown Davies (Prif Weithredwr Mudiad Meithrin), Efa Gruffudd Jones MBE (Prif Weithredwr yr Urdd), Rhea Stevens (Gweithredu dros Blant), y Cyngh Julia Magill (Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, Cyngor Caerdydd), Lynne Hill (Plant yng Nghymru), Chris Dodd (Eglwysi Di Drais)

 

1.    Croeso          

Dechreuwyd y cyfarfod gan Julie Morgan AC a throsglwyddwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ofal Jocelyn Davies AC. Enwebwyd Julie Morgan AC yn Gadeirydd y Grŵp ac ail-etholwyd hi, ac enwebwyd Aled Roberts a Lindsey Whittle yn Is-gadeiryddion y Grŵp ac etholwyd hwy. Cytunodd Plant yng Nghymru i barhau i weithredu fel ysgrifenyddiaeth y grŵp.

 

2.    Yr Anrh. Dr Jocelynne Scutt, Bargyfreithiwr a Chyfreithiwr Gymrawd Hawliau Dynol yn Ymweld, Coleg Lucy Cavendish, Prifysgol Caergrawnt

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Scutt: "A yw plant yn ddynol? Cosbi corfforol fel problem hawliau dynol ryngwladol". (Yn atodedig)

3.    Alaw Griffiths a Maegan Davies-John, myfyrwyr chweched dosbarth, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Rhoddodd Alaw a Maegan gyflwyniad yn amlinellu eu barn, a barn 100 o gyd-ddisgyblion a oedd wedi ateb pum cwestiwn allweddol ar y mater o blant yn cael amddiffyniad cyfartal rhag ymosodiad. 

 

4.    Jocelyn Davies AC

Rhoddodd Jocelyn Davies ei safbwynt personol ar y mater o amddiffyniad cyfartal i blant rhag unrhyw ymosodiad neu daro yn y cartref. Er bod Jocelyn wedi nodi nad oedd hi, ar un adeg, yn cwestiynu hawl rhieni i daro eu plant, mae hi wedi ail-ystyried ers hynny, ac wedi newid ei barn. Mae hi bellach yn credu bod yr oes wedi newid ac mae agweddau wedi newid ar y mater hwn, ac mae mynd i’r afael â thrais yn y gymdeithas yn ei gwneud yn ofynnol bod yr amddiffyniad o gosb resymol yn cael ei ddileu o’r ddeddfwriaeth yng Nghymru. 

5.    Andy James, Cadeirydd ’Sdim Curo Plant Cymru

Crynhodd Andy y drafodaeth hyd yma.  Nodwyd, dros y 12 mlynedd y bu Cymru yn trafod y mater hwn, mae 27 o wledydd wedi gwahardd cam-drin plant yn gorfforol. Gwahoddodd Julie sylwadau gan Aelodau’r Cynulliad a oedd yn bresennol:

6.    Mynegodd Aled Roberts AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Lyndsey Whittle AC Plaid Cymru, Christine Chapman AC Llafur oll gefnogaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad fel rhan o’r Bil Trais ar sail Rhywedd.

 

7.    Agorodd Julie Morgan y drafodaeth i bawb arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

8.    Holodd Paul Apreda ynghylch statws y gwelliant cyfreithiol, a chadarnhawyd mai newid i gyfraith sifil, nid i gyfraith droseddol a fyddai hwn.

 

9.    Nododd Robin Moulster y byddai angen canllawiau ac addysg i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol os/ pan wneir y newid cyfreithiol.

 

10.  Ychwanegodd Delyth Byrne o Tros Gynnal fod yn rhaid i blant fod yn rhan o’r darlun, ac y mae angen iddynt gael eu haddysgu am eu hawliau.

 

11.  Croesawodd Diane Daniels gyfraniad y bobl ifanc, a soniodd am holl raglenni’r llywodraeth a oedd bellach yn darparu cymorth rhianta, y gall y llywodraeth eu defnyddio i hyrwyddo’r neges hon i deuluoedd.

 

12.  Trafododd Dr Jo Sibert beryglon peidio ag adnabod camdriniaeth pan ddaw i’r amlwg i bediatregyddion, ac na ddylai cleisio o unrhyw fath gael ei anwybyddu. 

 

13.  Rhybuddiodd Dr Jocelyn Scutt na ddylid stigmateiddio dioddefwyr cosbau corfforol ar sail tybiaethau am ymddygiad posibl yn y dyfodol, oherwydd nad yw’r gwaith ymchwil yn cefnogi hyn.

 

14.  Roedd Jane Harries o’r Sefydliad Heddwch / Crynwyr yn awyddus i wybod sut y gallant hwy fel sefydliad wneud rhagor i gefnogi’r ymgyrch.

 

15.  Gofynnodd Julie Morgan a oedd modd i’r arolwg o bobl ifanc gael ei ddarparu gan Alaw a Maegan, ac yna daethpwyd â’r cyfarfod i ben.